Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

23 Medi 2014

 

Rhai sy’n bresennol

 

Ann Jones (Cadeirydd)

Donna Cushing (Ysgrifennydd sy’n gyfrifol am y Cofnodion)

Katie Chappelle (Ysgrifennydd)

 

Cynrychiolwyr / rhanddeiliaid

 

Michelle Fowler-Powe

Norman Moore

Meryl Roberts

Jayne Dulson

Nigel Williams

Jacqui Bond

Paul Redfern

Catrin Edwards

 

Aelodau’r Cynulliad

 

Mark Isherwood

 

Cymorth cyfathrebu

 

Rachel Williams (Dehonglydd)

Julie Doyle (Dehonglydd)

Grace Garnett (Gwefuslefarydd)

Hilary Maclean (palanteipydd)

 

1.         Croeso ac ymddiheuriadau

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Richard Williams, Barbara Rees, Jonathan Arthur, Olivia Retter, Jim Edwards, Dan Sumners a Ross Evans.

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 8 Gorffennaf 2014.

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

2.      Canfyddiadau ymchwil isdeitlo ar y teledu

 

         Rhoddodd Dr Yan Wu gyflwyniad ar y mater uchod.  Roedd Dr Elain Price a myfyriwr PhD Yixin yn bresennol.

 

-1-

 

Amlygodd Dr Wu y rhesymau ei bod hi a’i chydweithwyr yn cymryd rhan yn y prosiect hwn.  Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 1 o bob 7 o bobl yn dioddef o wahanol lefelau o nam ar y clyw a nam ar y clyw sy’n gysylltiedig ag oedran, ac mae’n hysbys bod y wlad yn symud at gymdeithas sy’n heneiddio.  Felly, amcangyfrif y bydd mwy o bobl yn dioddef nam ar y clyw yn y dyfodol.  Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i newid yn llwyr i ddigidol gyda’r addewidion a ddaw yn sgil technegol ddigidol.

 

         Pan newidiwyd i ddigidol, argoelwyd y dylai’r dechnoleg wneud bywyd yn haws i rai â nam ar y clyw.  Fodd bynnag, nid dyma’r achos bob tro.

 

         Cynhaliwyd arolwg ymysg y rhai â nam ar y clyw er mwyn canfod pa mor llwyddiannus oedd newid i deledu digidol.  Roedd y canlyniadau yn ddiddorol.  O’r 800 o gopïau papur a ddosbarthwyd, ac roedd yr arolwg ar gael ar wefan Abertawe hefyd, a oedd yn ei hyrwyddo gan y BBC, S4C a AOHL, daeth 339 arolwg i law.  O’r 339 arolwg a ddaeth i law, rhoddodd 240 ateb dilys i’r cwestiynau a ofynnwyd. Dyma’r canlyniadau:-

 

·  Daeth 62% o’r ymatebion gan y boblogaeth dros 65 oed.

·  Roedd gan 2/3 gymhorthion clyw digidol

·  Roedd 8% yn defnyddio mathau eraill o gymhorthion clyw

·  Roedd ½ yn dweud eu bod yn drwm eu clyw

·  Roedd 1/3 yn dweud eu bod yn fyddar

·  Roedd 8% yn dweud eu bod yn ddefnyddwyr BSL

·  Roedd 3% yn defnyddio Saesneg â Chymorth Arwyddion

·  Roedd 1/3 yn gwefusddarllen

 

Cwestiynau eraill a ofynnwyd - sawl awr y dydd rydych yn gwylio teledu a pha ddyfeisiadau technolegol y mae pobl yn eu defnyddio.  Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn gwylio mwy nag un awr o deledu y dydd ac roedd y rhan fwyaf yn dal i ddefnyddio eu setiau teledu gyda dyfeisiau digidol.  Roedd yn ymddangos fod diddordeb cynyddol mewn llwyfannau gwylio You Tube ac ar y rhyngrwyd.

 

Roedd yr arolwg hefyd yn gofyn pa sianeli yr oed dyn pobl yn eu gwylio a pha raglenni yr oedd yn well gan unigolion eu gwylio gan gynnwys rhaglenni byw.

 

Roedd 50% o ymatebwyr yn defnyddio isdeitlau, ond pan ofynnwyd y cwestiwn a yw unigolion yn gwylio rhaglenni BSL – dywedodd 70% nad oeddent yn gwneud, yn bennaf oherwydd yr amseroedd (yng nghanol y nos neu’n gynnar iawn yn y bore) a diffyg rhaglenni mewn BSL.

 

         Gofynnwyd nifer o gwestiynau eraill yn yr arolwg, gan gynnwys ansawdd y isdeitlo.  Cwynodd ymatebwyr am isdeitlau ysbeidiol ac oedi rhwng isdeitlo a sain/cynnwys gweledol.

 

         Gofynnwyd unigolion hefyd am isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gyfer rhaglenni Cymraeg.  Roedd nifer o’r ymatebwyr yn ymwybodol o isdeitlau Saesneg ond nid Cymraeg.

 

-2-

Teimlwyd, oherwydd y nifer fach o unigolion a ymatebodd, fod angen gwaith ymchwil pellach, nid drwy arolygon ond drwy grwpiau ffocws, i ganfod beth yw’r angen gwirioneddol am ragor o isdeitlau Cymraeg.

 

Gofynnodd y rhai a oedd yn bresennol nifer o gwestiynau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gopi llawn o’r cyflwyniad i’w anfon ymlaen at y Gweinidog.

 

3.      Camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf ac amserlen ar gyfer Cynllun Gwaith yn y Dyfodol

 

          Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau, gan fod y Cabinet wedi’i ad-drefnu, ei bod wedi bod yn anodd trefnu dyddiad â Gweinidogion a myfyrwyr sy’n darllen gwefusau.  Mae hon yn stori newyddion da, a byddwn yn dilyn hyn ac yn ceisio trefnu dyddiad yn y dyfodol agos.

 

Dyma fydd ein cynllun gwaith yn y dyfodol:

 

Tachwedd fydd gwirfoddoli.  Ionawr fydd darllen gwefusau a Mawrth fydd canfyddiadau prosiect ymgysylltu ar dai.

 

4.      Gwaith ymchwil Action on Hearing Loss/RNIB

 

Mae Action on Hearing Loss, RNIB Cymru a Sense Cymru yn cydweithio i siarad â phobl sy’n fyddar, dall neu’n fyddar a dall am y safonau iechyd hygyrchedd. Y bwriad yw gofyn iddynt flwyddyn wedyn a fu unrhyw welliant.  Byddwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi bod i’r ysbyty yn y flwyddyn ddiwethaf a gofyn sut oedd eu profiad a gweld a fu unrhyw wahaniaeth.  Rydym yn anelu at ofyn i 100 o bobl erbyn diwedd mis Hydref ac i gael rhai fideos ac astudiaethau achos i fynd gyda hynny fel y gellir adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. 

 

5.      Unrhyw fater arall

 

         Mynediad i Waith/Y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau -

        

         Rhoddodd Mark Isherwood wybod i’r rhai a oedd yn bresennol fod y mater codi yn sgil adroddiad a wnaeth ei ferch ar gyfer y Pwyllgor Dethol.

 

         Yn bennaf, amlygodd yr adroddiad ddiffyg dealltwriaeth cyflogwyr o ran unigolion sy’n gofyn am Fynediad i Waith a’r angen i Fynediad i Waith esgyblu a darparu gwasaneth iawn rhynddyn nhw, y cyflogai a’r cyflogwr.

 

         Yn dilyn cynhadledd yn y gogledd, lle trafodwyd Mynediad i Waith, rhoddodd Signature y wybodaeth ddiweddaraf i Mark Isherwood am adolygiad mewnol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar Fynediad i Waith.

 

         Mae’r fforwm anabledd busnes yn cynnal digwyddiad ar 25 Tachwedd.  Nod y cyfarfod yw datblygu mesurau i’w cyflwyno i Weinidog y DU a fydd wedyn yn penderfynu ar y camau nesaf. Bydd pob mesur yn ei asesu o ran effaith ansawdd.

 

         Trafododd yr aelodau y mater hwn yn fanwl.

-3-

7.      Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

          Cynhelir cyfarfod nesaf APGDI yng Nghaerdydd ar 25 Tachwedd 2014.

 

 

Gwnaed cyflwyniad i Norman B Moore – Cyfarwyddwr Cyngor Cymru i Bobl Fyddar yn y cyfarfod, gan mai hwn fydd ei gyfarfod olaf fel Cyfarwyddwr gan y bydd yn ymddeol ar 30 Medi 2014.

 

Dymunodd yr aelodau ymddeoliad hapus i Norman Moore.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

-4-